Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/11/2018 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15 - 14.30)

1.

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Briff technegol

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Reg Kilpatrick - Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

Alun Michael - Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

Stephen Carr, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Diogelach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Martin Swain, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Diogelwch Cymunedol, Llywodraeth Cymru

Mark Price, Cydgysylltydd Rhaglen Cymunedau Diogelach Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1       Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio technegol ar Ddiogelwch Cymunedol yng Nghymru gan Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru; Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau De Cymru; Stephan Carr, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Diogelach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a Mark Price, Cydgysylltydd Rhaglen Cymunedau Diogelach Llywodraeth Cymru.

 

(14.30 - 15.00)

2.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Menter Twyll Genedlaethol 2016-18

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-30-18 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Menter Twyll Genedlaethol 2016-18

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan yr Archwilydd Cyffredinol ar ei adroddiad a chytunwyd i ystyried y materion a godwyd ymhellach, o bosibl fel rhan o ystyriaeth ehangach o drefniadau gwrth-dwyll yn y sector cyhoeddus.

 

(15.00)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor

3.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC a Jack Sargeant AC.

 

(15.00 - 15.05)

4.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

(15.05 - 15.30)

5.

Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2018)

PAC(5)-30-18 Papur 2 – Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurder ynghylch nifer o faterion.

 

Sylwadau i gloi

Cytunodd y Pwyllgor ar gynnig i gyfarfod yn breifat ar 26 Tachwedd 2018.