Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/01/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1       Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

1.2       Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC a Jack Sargeant AC.

1.3       Diolchodd y Cadeirydd i Adam Price AC am gadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor yn ystod ei gyfnod tadolaeth.

1.4       Ar ran y Pwyllgor, mynegodd y Cadeirydd gydymdeimlad â theulu Steffan Lewis AC, a fu farw ar 11 Ionawr 2019.

 

(13.30 - 13.45)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

 

2.1

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio (RIFW): Llythyr gan Lywodraeth Cymru (29 Tachwedd 2018)

Dogfennau ategol:

2.2

Diogelwch Cymunedol yng Nghymru: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

2.3

Craffu ar Gyfrifon 2017-18: Gwybodaeth ychwanegol gan Amgueddfa Cymru

Dogfennau ategol:

2.4

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Rheoli effaith Brexit ar y Rhaglen Datblygu Gwledig

Dogfennau ategol:

2.5

Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Aeddfedrwydd llywodraeth leol o ran y defnydd o ddata

Dogfennau ategol:

2.6

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Datganoli cyllidol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

(13.45 - 14.15)

3.

Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-01-19 Papur 1 – Ymateb Llywodraeth Cymru

PAC(5)-01-19 Papur 2 - Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.

3.2 Trafododd yr Aelodau sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol ar ymateb Llywodraeth Cymru, gan gytuno y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion ac i wneud cais am ddiweddariadau rheolaidd ar gyflymder y gwelliannau.

 

(14.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Eitemau 5, 6, 7, 8 a 9

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(14.15 - 14.45)

5.

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(5)-01-19 Papur 3 - Adroddiad drafft

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, gan gytuno i drafod drafft arall yn y cyfarfod ar 28 Ionawr.

 

 

(14.45 - 15.00)

6.

Rheoli apwyntiadau cleifion allanol ar draws Cymru: Trafod y papur cwmpasu

Papur briffio

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.

 

(15.00 - 15.15)

7.

Menter Atal Twyll Genedlaethol: Trafod y papur cwmpasu

PAC(5)-01-19 Papur 4 - Papur cwmpasu

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.

 

 

(15.15 - 15.30)

8.

Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau: Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-01-19 Papur 5 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, gan gytuno i gynnal ymchwiliad i'r mater hwn.

 

 

(15.30 - 16.00)

9.

Adroddiad(au) Archwilydd Cyffredinol Cymru: Blaenraglen waith

PAC(5)-01-19 Papur 6 – Blaenraglen Waith Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Nododd yr Aelodau flaenraglen waith Archwilydd Cyffredinol Cymru a'r ffaith mai diwedd yr wythnos honno oedd y dyddiad cau ar gyfer ymatebion iddi.