Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Bowen
Amseriad disgwyliedig: Cyfarfod preifat
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC, Vicki Howells AC a Rhianon Passmore AC. Ni
chafwyd dirprwyon. |
|
(09.00 - 09.10) |
Y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif: Trafod llythyr y Pwyllgor PAC(5)-22-18 Papur 1 – Llythyr drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd yr Aelodau y llythyr, a chytunwyd arno, yn amodol ar rai mân
newidiadau. |
|
(09.10 - 09.30) |
Addasiadau Tai: Trafod yr adroddiad drafft PAC(5)-22-18 Papur 2 – Adroddiad drafft Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft, a chytunwyd arno, yn amodol ar
rai mân newidiadau. |
|
(09.30 - 09.40) |
Y Rhaglen Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-22-18 Papur 3 - Ymateb
Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor PAC(5)-22-18 Papur 4 – Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Trafododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor ar y
Rhaglen Cefnogi Pobl. 4.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad
ynghylch nifer o ymatebion i argymhellion yr Adroddiad. |
|
(09.40 - 09.50) |
Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2016-2017 PAC(5)-22-18 Papur 5 – Adroddiad y Bwrdd Cynghori ar
Adroddiadau Ariannol 2016-17 Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad a’i nodi. |
|
(09.50 - 10.00) |
Heriau digideiddio Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y cylch gorchwyl drafft ar gyfer y grŵp
rapporteur Heriau Digideiddio, a chytunodd arno. |