Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/09/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC.

 

(13.00 - 13.05)

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2. Nodwyd y papurau.

 

2.1

Maes Awyr Caerdydd: Llythyr gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (20 Medi 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Adolygiad Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Yr hyn a ddysgwyd: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (24 Medi 2019)

Dogfennau ategol:

(13.05 - 14.20)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Comisiwn y Cynulliad

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-23-19 Papur 1 - Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2018-19

PAC(5)-23-19 Papur 2 – Argymhellion a gynhwyswyd yn Adroddiad y Pwyllgor ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2017-18

 

Manon Antoniazzi – Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nia Morgan – Cyfarwyddwr Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Suzy Davies AM – Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad; Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad, a Suzy Davies AC, y Comisiynydd sydd â Chyfrifoldeb dros y Gyllideb a Llywodraethu, am Gyfrifon Comisiwn y Cynulliad.

3.2 Cytunodd y tystion i anfon rhagor o wybodaeth am y canlynol:

·         Y targedau ymestyn ar gyfer y dangosyddion perfformiad allweddol;

·         Cynlluniau / gwaith sy’n cael ei wneud i leihau plastig untro;

·         Agweddau amgylcheddol asesiadau contract; a

·         Chymharu absenoldeb sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a llesiant ac achosion eraill o salwch ar gyfer eleni a’r llynedd.

 

 

(14.20 - 14.30)

4.

Gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau: Trafod ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor

PAC(5)-23-19 Papur 3 – Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4. Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i edrych arno eto yn y cyfarfod nesaf.

 

(14.30)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 6 & 7

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.30 - 14.45)

6.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

6. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(14.45 - 16.00)

7.

Arferion a gweithdrefnau gwaith y Pwyllgor: Hyfforddiant y Pwyllgor

Cofnodion:

7. Cafodd aelodau’r Pwyllgor sesiwn hyfforddi ar rôl Swyddogion Cyfrifo.