Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/10/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(13.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nodwyd y papurau.

2.2 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad ynghylch nifer o faterion yn y llythyr ar oruchwyliaeth reoleiddio ar Gymdeithasau Tai.

2.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ynglŷn â chyhoeddi’r Adroddiad ar Dlodi Tanwydd, ac at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynghylch Adroddiad y 'drws blaen' i ofal cymdeithasol i oedolion.

2.4 Gofynnodd y Pwyllgor am sesiwn friffio fanwl ar y Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus.

 

 

 

2.1

Ymchwiliad i oruchwyliaeth reoleiddiol ar Gymdeithasau Tai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (3 Hydref 2019)

2.2

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y 'drws blaen' i ofal cymdeithasol i oedolion

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Y ‘drws blaen’ i ofal cymdeithasol i oedolion

2.3

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tlodi Tanwydd

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tlodi Tanwydd

2.4

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Adolygiad o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

2.5

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1999-00 a 2017-18

(13.20 - 14.50)

3.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llywodraeth Cymru

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-26-19 Papur 1 – Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

 

Shan Morgan – Ysgrifennydd Parhaol, Llywodraeth Cymru

Andrew Slade - Cyfarwyddwr Cyffredinol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland - Prif Weithredwr, WEFO

Gawain Evans - Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru

David Richards - Cyfarwyddwr Moeseg a Llywodraethu, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor yr ail sesiwn graffu gyda'r Ysgrifennydd Parhaol ar Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.

3.2 Gofynnodd y Cadeirydd ar beth y bydd y benthyciad o £21.2 miliwn yn cael ei wario ym Maes Awyr Caerdydd ynghyd ag amserlen ad-dalu, yn sgil y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach heddiw. Cytunodd Andrew Slade i ysgrifennu gyda manylion pellach.

3.3 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol y byddai'n:

·         Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am y trafodaethau dwyochrog a drefnwyd ar gyfer mis Tachwedd ynghylch Cyfrifon Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig;

·         Rhoi rhagor o wybodaeth am raddfa'r golled yn 2018-19 ynghylch stociau cyffuriau sydd wedi dod i ben ac archwilio i a allai’r cyffuriau fod wedi cael eu defnyddio yn rhywle arall cyn i’w dyddiad ddod i ben, gan gynnwys pam mae’r ffigurau ar gyfer cyffuriau a ddilëwyd yn uwch na ffigurau’r blynyddoedd blaenorol;

·         Anfon rhagor o fanylion ynglŷn â grant nofio am ddim Llywodraeth Cymru i bobl dros 60 oed;

·         Anfon ragor o wybodaeth unwaith y bydd yr adroddiad o'r gwerthusiad o'r peilot cyllido hyblyg wedi'i lunio; ac

·         Egluro pam mai 41 y cant yn unig o'r cyllid a ddyrannwyd i'r Cynllun Datblygu Gwledig a gafodd ei wario, fel yr oedd ym mis Awst 2019.

 

 

 

(14.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.50 - 15.15)

5.

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.