Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 25/11/2019 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.00 - 13.20)

1.

Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1999-00 a 2017-18

PAC(5)-30-19 Papur 1 - Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru: Tueddiadau o ran Gwariant Cyhoeddus yng Nghymru rhwng 1999-00 a 2017-18

 

Cofnodion:

1.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio ar yr Adroddiad hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru.

 

 

(13.20 - 13.50)

2.

Llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn cynghorau cymuned: Briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

Cofnodion:

2.1 Cafwyd briffio gan Swyddfa Archwilio Cymru  ar reoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned.

 

 

(13.50)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

3.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Adam Price AC. Dirprwyodd Dr Dai Lloyd AC ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Rhianon Passmore AC.

 

 

(13.50)

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nodwyd y papur.

 

 

4.1

Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (11 Tachwedd 2019)

Dogfennau ategol:

(13.55 - 15.00)

5.

Llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn cynghorau cymuned: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Papur briffio

PAC(5)-30-19 Papur 2 – Llywodraeth Cymru

 

Tracey Burke – Cyfarwyddwr Cyffredinol, Y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Llywodraeth Lleol, Llywodraeth Cymru

Claire Germain, Dirprwy Gyfarwyddwr Trawsnewid a Phartneriaethau Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Holodd y Pwyllgor Lywodraeth Cymru ar reoli ariannol a llywodraethu mewn cynghorau cymuned.

5.2 Cytunodd Tracey Burke i anfon manylion ynghylch nifer y seddau lle na chynhaliwyd etholiad yn etholiad y cynghorau tref a chynghorau cymuned yn 2017.

 

 

(15.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

 

(15.15 - 15.30)

7.

Llywodraethu a rheolaeth ariannol mewn cynghorau cymuned: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

 

(15.30 - 16.00)

8.

Blaenraglen waith: Gwanwyn 2020

PAC(5)-30-19 Papur 3 – Blaenraglen Waith

PAC(5)-30-19 Papur 4 - Ymchwiliad i effeithiolrwydd Awdurdodau Cynllunio Lleol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor y gwanwyn 2020 a chytunwyd arni.