Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 13/01/2020 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1.Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd Darren Millar AC yn dirprwyo ar ei ran.

1.2 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau i ethol Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebodd Jenny Rathbone AC Darren Millar AC, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.

1.3 Croesawodd  y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor, a Lynne Neagle AC yn benodol, a oedd yn bresennol yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AC.

 

 

(13.15)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

2.2

Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (20 Rhagfyr 2019)

Dogfennau ategol:

(13.20 - 14.50)

3.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru;

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

Briff ystadegol y Gwasanaeth Ymchwil

PAC(5)-01-20 Papur 1 – Llywodraeth Cymru

PAC(5)-02-20 Papur 2 – David Melding AC, Cadeirydd y Grŵp Cynghori Gweinidogol

PAC(5)-02-20 Papur 3 – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

PAC(5)-02-20 Papur 4 – Comisiynydd Plant Cymru

PAC(5)-02-20 Papur 5 – Plant yng Nghymru

PAC(5)-02-20 Papur 6 – NSPCC Cymru

 

Albert Heaney - Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio, Llywodraeth Cymru

Alistair Davey - Dirprwy Gyfarwyddwr, Galluogi Pobl, Llywodraeth Cymru

Steve Davies –Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg, Llywodraeth Cymru

Megan Colley - Pennaeth Cefnogi Cyflawniad a Ddiogelu, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Aeth y Pwyllgor ati i graffu ar waith Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.

3.2 Roedd nifer o bwyntiau gweithredu a fydd yn cael eu cynnwys mewn llythyr gan y Cadeirydd ynghyd â sylwadau’r Pwyllgor.

 

(14.50)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 5

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(14.50 - 15.15)

5.

Plant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i holi am nifer o faterion a godwyd yn ystod y cyfarfod.