Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David, nid oedd unrhyw un yn dirprwyo ar ei ran.

 

(09:30 - 10:15)

2.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 9

Samariaid Cymru

Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol
Emma Harris, Swyddog Polisi a Chyfathrebu
Carol Fradd, Arweinydd Gweithredol i Ysgolion

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Samariaid. Cytunasant i anfon dau adroddiad at y Pwyllgor:

 - Adolygiad a gyhoeddwyd yn The Lancet yn 2015 - Rhaglenni atal hunanladdiad yn yr ysgol: y prawf SEYLE ar hap o ran clwstwr, wedi'i reoli; ac

- Adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd - Growing up unequal: gender and socioeconomic differences in young people's health and well-being.

 

(10:30 - 11:30)

3.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 10

Tîm Dyletswydd Brys y GIG / Ymarferwyr Gofal Argyfwng

 

Sharon Stirrup, Rheolwr Gweithredol CAMHS - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Darren Rennie, Ymarferydd Tîm Triniaeth Ddwys Gydgysylltiedig (CITT) - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Caren Weaver, Nyrs Argyfwng - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Dr Mark Griffiths, Cyfarwyddwr Clinigol, CAMHS - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Melanie Jones, Nyrs Gyswllt Argyfwng CAMHS - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

 

Mae ymatebion cyffredinol gan yr holl Fyrddau Iechyd a Chonffederasiwn GIG Cymru wedi'u cyhoeddi ar dudalen ymgynghoriad yr ymchwiliad

 

 

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o dimau dyletswydd brys y GIG ac ymarferwyr gofal argyfwng.

 

3.2 Cytunodd y tystion i ddarparu nodyn ar gyfran y bobl ifanc sy'n dod gerbron y timau argyfwng yn y Byrddau Iechyd gwahanol sy'n aros am asesiad CAMHS neu sydd eisoes dan ofal CAMHS.

 

 

4.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 11

Cynrychiolwyr yr Heddlu

 

Prif Gwnstabl Cynorthwyol Jonathan Drake, Awdurdod Heddlu De Cymru ac Arweinydd Rhanbarthol Cymru ar gyfer Iechyd Meddwl, Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu

Ditectif Prif Arolygydd Alistair Mitchell, Heddlu De Cymru

Uwcharolygydd Nicholas McLain, Heddlu Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Penaethiaid Cenedlaethol yr Heddlu.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Heddlu Gogledd Cymru i geisio ei farn ar ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru a'i effaith ar waith yr heddlu.

 

(12:15)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Pecyn o fuddsoddiad yn y rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Gweithredu'r rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Dogfennau ategol:

(12:15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(IX) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:15 - 12:30)

7.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc - Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod.