Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/04/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie
Morgan AC; roedd David Rees yn bresennol fel dirprwy. |
|
(09:30 - 10:30) |
Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - sesiwn ynghylch cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru Llywodraeth Cymru Huw
Irranca-Davies AC, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant. Jo-Anne Daniels,
Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi Owain Lloyd, Dirprwy
Gyfarwyddwr Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar y Gweinidog ynghylch cynnig gofal plant
Llywodraeth Cymru. 2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y rhesymeg dros y cynnig yn
dechrau yn y tymor yn dilyn trydydd pen-blwydd y plentyn ac asesiad Llywodraeth
Cymru o effaith bosibl y dull gweithredu hwn ar blant sy'n cael eu geni yn yr
haf. |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – cyllid ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at y Cadeirydd gan y Cynghorydd Rob Jones (arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot) ynglŷn â'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol – gwybodaeth bellach gan y Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mawrth Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol – gwybodaeth bellach gan Ein Rhanbarth ar Waith yn dilyn y cyfarfod ar 8 Mawrth Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth y Pwyllgor ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Safon dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – dod â’r Grant Gwisg Ysgol i ben o 2018-19 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 22 Mawrth Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – rhoi cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar waith Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – argaeledd gwerslyfrau Dogfennau ategol: |
||
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:45 - 11:00) |
Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) – trafod y dull gweithredu Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer y Bil. |
|
(11:00 - 12:00) |
Ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol - trafod y materion allweddol Papur preifat Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Caiff adroddiad drafft ei
drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(12:00 - 12:15) |
Adnoddau ar gyfer craffu ar Brexit - trafod y llythyr gan y Llywydd Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor i ymateb i'r llythyr gan y Llywydd
ac i wneud rhywfaint o waith ynghylch yr heriau a'r cyfleoedd sy'n codi ym maes
addysg uwch ac addysg bellach yn sgil Brexit. |