Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30 - 10.00)

1.

Papur briffio technegol ar yr Adolygiad Annibynnol o Dâl ac Amodau Athrawon

Cofnodion:

1.1 Cafodd Aelodau eu briffio gan aelodau'r panel.

 

(10.00 - 10.45)

2.

Briff technegol ar y Papur Gwyn ar ddiwygio'r system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.

Cofnodion:

2.1 Cafodd yr Aelodau eu briffio gan swyddogion Llywodraeth Cymru.

 

(11.00)

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Janet Finch-Saunders AC, ac nid oedd dirprwy yn bresennol.

3.2 Croesawodd y Cadeirydd Suzy Davies AC a diolchodd i Darren Millar AC a Mark Reckless AC am eu holl gyfraniadau i'r Pwyllgor.

 

(11.00 - 12.15)

4.

Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - sesiwn dystiolaeth 4

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SAUDGO

Marie Knox, Dirprwy Gyfarwyddwr Pontio Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog. Cytunodd aelodau'r panel i ddarparu nodyn ynglŷn â'r materion a ganlyn:

 

Yr ymarferion asesu risg a gynhaliwyd ar gyfer addysg uwch ac addysg bellach mewn perthynas â Brexit a;

 

Dadansoddiad o sut mae'r £6.4 miliwn ychwanegol i CCAUC wedi'i ddyrannu neu ei wario yn ymarferol.

 

 

(12.15)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Camau yn codi o'r cyfarfod ar 28 Mehefin

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 28 Mehefin

Dogfennau ategol:

5.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Rhaglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr oddi wrth y Llywydd - Mentrau Senedd@

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

5.6

Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:

5.7

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y ddadl ar adroddiad y pwyllgor 'Cadernid Meddwl'

Dogfennau ategol:

5.8

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol

Dogfennau ategol:

5.9

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol

Dogfennau ategol:

5.10

Llythyr gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol - sylwadau ar ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y pwyllgor 'Cadernid Meddwl'

Dogfennau ategol:

5.11

Llythyr gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Dilyniant i'r Gwaith Ieuenctid

Dogfennau ategol:

5.12

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

5.13

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Dogfennau ategol:

5.14

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - sesiwn graffu gyffredinol ar 10 Hydref 2018

Dogfennau ategol:

5.15

Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - Rhagor o wybodaeth gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) yn dilyn y cyfarfod ar 18 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

5.16

Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - Rhagor o wybodaeth gan Brifysgol Caerdydd yn dilyn y cyfarfod ar 12 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

5.17

Llythyr oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn dilyn y sesiwn graffu ar 5 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

5.18

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Meini prawf cymhwysedd diwygiedig i brydau ysgol am ddim yng Nghymru oherwydd cyflwyno Credyd Cynhwysol

Dogfennau ategol:

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.15 - 12.30)

7.

Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - ystyried y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod sesiwn dystiolaeth y bore.