Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden a Llyr Gruffydd. Roedd Sian Gwenllian yn dirprwyo ar ran Llyr.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Briffio technegol ar werthuso'r cynnig Gofal Plant

Sioned Lewis, Cyfarwyddwr ARAD Research

Stuart Harries, Cyfarwyddwr ac Aelod Sylfaenol ARAD Research

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr - Adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru

Faye Gracey, Pennaeth Dadansoddiad Polisi ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, Llywodraeth Cymru

 

 

Cofnodion:

2.1 O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Suzy Davies AC ei bod yn arfer rhedeg Meithrinfa Gymunedol.

2.2 Cafodd y Pwyllgor eu briffio gan swyddogion ynghylch y gwerthusiad cynnig gofal plant.

 

(10.40 - 11.40)

3.

Ymchwiliad i Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Bydd adroddiad drafft yn cael ei drafod yn y cyfarfod ar 14 Tachwedd.