Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/03/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar
www.senedd.tv 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi penderfynu,
pe bai hi’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.15 - 10.45) |
COVID-19: iechyd meddwl ac iechyd corfforol Yr Athro
Ann John, Athro Iechyd y Cyhoedd a Seiciatreg yn Ysgol Feddygol Prifysgol
Abertawe a Chadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar
atal hunanladdiad a hunan-niweidio Yr Athro Alka Ahuja, Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a’r
Glasoed, ac Arweinydd Clinigol Cenedlaethol, Gofal a Alluogir gan Dechnoleg
(TEC Cymru), ac Arweinydd Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Coleg Brenhinol y
Seiciatryddion yng Nghymru Yr Athro
Adrian Edwards, Athro Ymarfer Cyffredinol ym Mhrifysgol Caerdydd, a
Chyfarwyddwr Canolfan Dystiolaeth newydd Cymru ar gyfer COVID-19, Cyfarwyddwr
Canolfan PRIME Cymru (canolfan Cymru gyfan ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a
gofal brys) a meddyg teulu rhan amser Dr David
Tuthill, Pediatregydd Ymgynghorol a Swyddog Cymru yng Ngholeg Brenhinol
Pediatreg ac Iechyd Plant Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Ann John,
yr Athro Alka Ahuja, yr Athro Adrian Edwards a Dr David Tuthill ar faterion
sy’n ymwneud ag effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc. |
|
(10.45) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 3.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch atgyfeiriadau diogelu a phlant sy’n derbyn gofal Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Gweinidog Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc yn dychwelyd i addysg Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gomisiynydd Plant Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch adolygiad o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn arfer ei swyddogaethau: Addysg yn y cartref ac ysgolion annibynnol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Adroddiad ar gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran un o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Addysg ynghylch gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 Dogfennau ategol: |
||
(10.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.45 - 11.00) |
Covid-19 Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod
y sesiwn flaenorol. |