Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod (PDF 863KB) Gweld fel HTML (391KB)

 

 

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Daeth ymddiheuriadau i law gan Darren Millar, ac roedd Andrew RT Davies yn dirprwyo ar ei ran. Hefyd cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan, ac nid oedd neb yn dirprwyo ar ei rhan.

 

(09.30 - 10.50)

2.

Ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon - Sesiwn dystiolaeth 1

Neil Foden, Aelod o Weithrediaeth NUT Cymru

Rachel Curley, Cyfarwyddwr Dros Dro - ATL

Ywain Myfyr, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Rex Phillips, Swyddog Cenedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel o undebau addysg. 

Cytunodd aelodau'r panel i ddarparu nodyn ynglŷn â'r materion a ganlyn:

 

  • nifer yr athrawon sydd wedi colli eu swyddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf (Byddai proffil o bum mlynedd yn ddefnyddiol);

 

  • y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ganfod nifer yr athrawon sy'n colli eu swyddi.

 

 

 

 

(11.00 - 12.00)

3.

Trafod yr adroddiad gan Goleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (RCPCH) – Cyflwr Iechyd Plant

Dr Mair Parry, Swyddog Cymru - RCPCH

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

4.1

Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - Gwybodaeth ychwanegol oddi wrth Estyn

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i drafod y llythyr hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

4.3

Llythyr gan y Llywydd – Senedd@Casnewydd

Dogfennau ategol:

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.30)

6.

Ymchwiliad i'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig - trafod y prif faterion

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(12.30 - 12.45)

7.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad.