Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jon Antoniazzi 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie Morgan AC; nid oedd dirprwy yn bresennol.

 

O dan Reol Sefydlog 17.24 datgelodd y Cadeirydd bod ei gŵr yn gwneud gwaith gyda Phrifysgol De Cymru sydd yn ymwneud ag addysg gychwynnol i athrawon.

 

(09.30 - 10.20)

2.

Ymchwiliad i Addysgu a Dysgu Proffesiynol Athrawon – sesiwn dystiolaeth 3

Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi

Claire Morgan, Cyfarwyddwr Strategol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Estyn.

 

(10.30 - 11.20)

3.

Ymchwiliad i Addysgu a Dysgu Proffesiynol Athrawon – sesiwn dystiolaeth 4

Hayden Llewellyn, Prif Weithredwr

Angela Jardine, Cadeirydd y Cyngor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

 

(11.20 - 12.10)

4.

Ymchwiliad i Addysgu a Dysgu Proffesiynol Athrawon – sesiwn dystiolaeth 5

Yr Athro John Furlong, Adran Addysg – Prifysgol Rhydychen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Furlong.

 

(12.10)

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papur.

 

5.1

Llythyr gan Adam Price AC at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Sicrhau darpariaeth ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu mewn sefydliadau addysg bellach arbenigol

Dogfennau ategol:

(12.10)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf ac eitem 1 a 2 y cyfarfod ar 5 Ebrill:

Cofnodion:

Derbyniwyd y Cynnig.

 

(12.10 - 12.30)

7.

Y 1,000 diwrnod cyntaf - cytuno ar gylch gorchwyl

Cofnodion:

Yn amodol ar rai mân newidiadau, derbyniodd y Pwyllgor y cylch gorchwyl.