Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09.30 - 11.00) |
Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – sesiwn dystiolaeth 11 Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
Joanna Jordan - Cyfarwyddwr Iechyd Meddwl, Llywodraethu’r
GIG & Gwasanaethau Corfforaethol Karen Jewell - Swyddog Nyrsio Mamolaeth a Blynyddoedd
Cynnar Dogfennau ategol:
Cofnodion: Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon. Cytunodd Ysgrifennydd
y Cabinet i ddarparu nodyn ar y canlynol: ·
Amserlenni ynghylch pryd y bydd darlun data llawn y Bwrdd Iechyd ar gael,
sy'n cynnwys nifer y menywod sydd wedi cael eu cyfeirio a'u gweld gan
seicolegwyr a'r rhai a atgyfeiriwyd ond nad ydynt yn gallu cael mynediad at seicolegydd. ·
Y diweddaraf am argaeledd mynediad i driniaeth siarad wyneb yn wyneb. ·
Nodyn ar y dystiolaeth a roddwyd gan Gymdeithas
Seicolegol Prydain bod y rhai sy’n cyflwyno gwasanaethau seicoleg amenedigol
yng Nghymru yn gorfod ceisio goruchwyliaeth y tu allan i Gymru, o ganlyniad i
ddiffyg seicolegydd amenedigol ymgynghorol yng Nghymru. ·
Diweddariad yn dilyn cyfarfod y cyd Bwyllgor ar 25 Gorffennaf i drafod yr
adolygiad o'r galw am wasanaethau haen 4. ·
Nodyn ar unrhyw ymchwil sydd ar gael ar effaith methu bwydo ar y fron, ac a
yw hyn yn sbardun i iselder ôl-enedigol a pha gamau sy'n cael eu cymryd gan
staff rheng flaen i gefnogi mamau sy'n bwydo ar y fron. |
|
(11.00) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: Nodwyd y papurau. |
|
Nodyn ar Grŵp Llywio Iechyd Meddwl Amenedigol Cymru Gyfan Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith - Teithio gan Ddysgwyr yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.00 - 11.30) |
Ymchwiliad i iechyd meddwl amenedigol – Trafod y dystiolaeth Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a
gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad. Caiff adroddiad drafft ei drafod ar
ddechrau tymor yr hydref. |