Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Hefin David.  Ni chafwyd dirprwyon ar eu rhan. 

 

Cofnododd y Cadeirydd ddiolch y Pwyllgor i Anne Thomas o Wasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dymunodd yn dda iddi yn ei hymddeoliad.

 

 

(09.30 - 11.00)

2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant - sesiwn graffu gyffredinol

Carl Sargeant AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr - Cymunedau a Threchu Tlodi

Albert Heaney, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ychwanegol am y canlynol:

 

  • Proses yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau'r Plentyn, gan gynnwys y system sydd ar waith i fonitro ei ddefnydd ac enghreifftiau o newidiadau i bolisi sydd wedi digwydd o ganlyniad i Asesiad;
  • Annibyniaeth gymharol model comisiynwyr statudol Cymru o gymharu â'r rhai mewn gwledydd eraill (yn canolbwyntio ar y Comisiynydd Plant yn arbennig);
  • Yr amserlenni sy'n gysylltiedig â meysydd arloesedd Rhoi Plant yn Gyntaf;
  • Y diweddaraf am pryd y caiff y strategaeth gweithlu gofal plant ei chyflwyno, a rhagor o fanylion am ei chynnwys a'r cynllun ar gyfer ei gweithredu;
  • Y gwaith a wneir gan ei dîm mewn perthynas â phlant a phobl ifanc wrth baratoi ar gyfer y DU yn gadael yr UE;
  • Manylion am werthusiadau (academaidd) diweddar Dechrau'n Deg a chynlluniau tebyg eraill sy'n seiliedig ar god post, gyda chymariaethau penodol o ganlyniadau ar gyfer y plant hynny sy'n cael mynediad i'r cynlluniau a'r rhai nad ydynt.

 

Yn gynnar yn nhymor yr hydref, aeth Ysgrifennydd y Cabinet ati hefyd i ddarparu ymateb pendant i'r cwestiwn ynghylch a fydd yn ailsefydlu'r Grŵp Cynghori Allanol ar Eiriolaeth.

 

 

 

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

 

3.1

Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes - Gwaith Ieuenctid

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr oddi wrth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol

Dogfennau ategol:

3.3

Llythyr oddi wrth y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon - Fframwaith Diwygiedig ar gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru

Dogfennau ategol:

3.4

Llythyr gan y Llywydd - Gweithredu Deddf Cymru 2017

Dogfennau ategol:

3.5

Datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru - Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Dogfennau ategol:

3.6

Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes –Rhaglennu deddfwriaeth sydd ar y gweill

Dogfennau ategol:

3.7

Datganiad gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru - pen-blwydd swyddogol cyntaf Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.10 - 11.20)

5.

Trafod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor bapur ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd y byddai adroddiad drafft yn cael ei ystyried yn nhymor yr hydref.

 

(11.20 - 11.30)

6.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 - trafod y dull gweithredu

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y dull gweithredu. 

 

(11.30 - 11.40)

7.

Llythyrau gan y Llywydd - Rhaglennu deddfwriaeth sydd ar ddod a Gweithredu Deddf Cymru 2017

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyrau a chytunwyd ar ei ymateb iddynt.