Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:00 - 10:00)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Huw Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru

Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru ynghylch y gyllideb ddrafft. 

2.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog i ddarparu nodyn ar:

·         y broses a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i ganfod a yw'n briodol cynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn hytrach nag Asesiad Effaith Integredig, yn enwedig yng nghyd-destun y Gyllideb Ddrafft;

·         y rhagolygon cyllid ar gyfer rhaglenni Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau'n Gyntaf; a

·         rhagor o wybodaeth am dystiolaeth y Gweinidog am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phum awdurdod lleol peilot a banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw mewn perthynas â gwerthuso canlyniadau Dechrau'n Deg.

 

 

 

(10:10 - 11:30)

3.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 1

Carol Shillabeer, Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Rheolwr y Rhaglen Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc

Yr Athro y Fonesig Sue Bailey, Ymgynghorydd Allanol i'r adolygiad o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yng Nghymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carol Shillabeer a'r Fonesig Sue Bailey.

 

3.2 Cytunodd Carol Sillabeer i ddarparu nodyn ar y canlynol:

·         cyfeiriadur arfer gorau ar gyfer ffrwd gwaith Cydnerthedd, Llesiant a Blynyddoedd Cynnar, a gyhoeddwyd ar y cyd â'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar;

·         gwybodaeth am gyfranogiad byrddau iechyd wrth gomisiynu darpariaeth eiriolaeth gyffredinol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac a oes darpariaeth Cymru gyfan;

·         faint o blant yng Nghymru sy'n aros yn hwy na 26 wythnos ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, fesul bwrdd iechyd lleol;

·         cyfraddau staffio presennol (WTE) a chyfradd swyddi gwag CAMHS arbenigol ym mhob Bwrdd Iechyd a sut mae'r ffigurau hynny wedi newid ers dechrau'r rhaglen ac ar draws gwahanol grwpiau;

·         lefel buddsoddiad y Byrddau Iechyd ar gyfer ehangu darpariaeth therapïau seicolegol, faint o swyddi arbenigol WTE ychwanegol a grëwyd a beth yw effaith hyn ar wella mynediad at therapïau seicolegol;

·         effaith cymorth y tu allan i oriau/mewn argyfwng ar leihau nifer y cleifion mewnol;

·         data ar dderbyniadau i ofal cleifion mewnol fesul lleoliad cleifion mewnol, gan gynnwys adrannau damweiniau ac achosion brys, wardiau pediatrig a wardiau oedolion, a derbyniadau i ofal cleifion mewnol y tu allan i Gymru;

·         gwybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent i leihau derbyniadau i adran damweiniau ac achosion brys.

 

 

(11:30 - 12:30)

4.

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 2

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Nia Evans, Ymgynghorydd Polisi Iechyd ac Iechyd Meddwl

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant.

4.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar y canlynol:

·         ei gohebiaeth ag Ysgrifenyddion perthnasol y Cabinet ynghylch hyd a lled y gwaith partneriaeth rhwng T4CYP a rhaglenni diwygio'r cwricwlwm, gan gynnwys copi o'r papur a gyflwynodd i grwpiau ymgynghorol T4CYPP a Donaldson;

·         ei hymateb i Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol , sef Papur Gwyn Llywodraeth Cymru;

·         crynodeb o unrhyw wybodaeth gwaith achos/astudiaethau achos y tynnwyd sylw ei swyddfa atynt mewn perthynas ag anawsterau plant a phobl ifanc wrth gyrchu gofal mewn argyfwng.

 

(12:30)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - llythyr yn dilyn y sesiwn graffu ar 20 Gorffennaf

Dogfennau ategol:

5.2

Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - nodyn am yr ymweliadau ar 28 Medi

Dogfennau ategol:

(12:30 - 13:00)

7.

Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – trafod y dystiolaeth a'r adroddiad ar y gyllideb ddrafft

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn. Caiff adroddiad drafft ei ddosbarthu i'r Aelodau.