Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
(09:00 - 10:00) |
Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 Vaughan
Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Huw
Irranca-Davies AC, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Jo-Anne
Daniels, Cyfarwyddwr Cymunedau a Threchu Tlodi, Llywodraeth Cymru Alistair
Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Galluogi Pobl, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar Lywodraeth Cymru
ynghylch y gyllideb ddrafft. 2.2
Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet a'r Gweinidog i ddarparu nodyn ar: ·
y broses a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru i ganfod a
yw'n briodol cynnal Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn hytrach nag Asesiad
Effaith Integredig, yn enwedig yng nghyd-destun y Gyllideb Ddrafft; ·
y rhagolygon cyllid ar gyfer rhaglenni Dechrau'n Deg,
Teuluoedd yn Gyntaf a Chymunedau'n Gyntaf; a ·
rhagor o wybodaeth am dystiolaeth
y Gweinidog am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda phum awdurdod
lleol peilot a banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw mewn perthynas â
gwerthuso canlyniadau Dechrau'n Deg. |
|
(10:10 - 11:30) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 1 Carol
Shillabeer, Prif Weithredwr - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Rheolwr y Rhaglen
Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc Yr Athro y Fonesig Sue Bailey, Ymgynghorydd Allanol i'r adolygiad o
Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carol Shillabeer a'r Fonesig Sue Bailey. 3.2
Cytunodd Carol Sillabeer i ddarparu nodyn ar y canlynol: ·
cyfeiriadur
arfer gorau ar gyfer ffrwd gwaith Cydnerthedd, Llesiant a Blynyddoedd Cynnar, a
gyhoeddwyd ar y cyd â'r Sefydliad Ymyrraeth Gynnar; ·
gwybodaeth
am gyfranogiad byrddau iechyd wrth gomisiynu darpariaeth eiriolaeth gyffredinol
ar gyfer plant a phobl ifanc mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ac a oes
darpariaeth Cymru gyfan; ·
faint o
blant yng Nghymru sy'n aros yn hwy na 26 wythnos ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol
yn ôl y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, fesul bwrdd iechyd lleol; ·
cyfraddau
staffio presennol (WTE) a chyfradd swyddi gwag CAMHS arbenigol ym mhob Bwrdd
Iechyd a sut mae'r ffigurau hynny wedi newid ers dechrau'r rhaglen ac ar draws
gwahanol grwpiau; ·
lefel
buddsoddiad y Byrddau Iechyd ar gyfer ehangu darpariaeth therapïau seicolegol,
faint o swyddi arbenigol WTE ychwanegol a grëwyd a beth yw effaith hyn ar wella
mynediad at therapïau seicolegol; ·
effaith
cymorth y tu allan i oriau/mewn argyfwng ar leihau nifer y cleifion mewnol; ·
data ar
dderbyniadau i ofal cleifion mewnol fesul lleoliad cleifion mewnol, gan gynnwys
adrannau damweiniau ac achosion brys, wardiau pediatrig a wardiau oedolion, a
derbyniadau i ofal cleifion mewnol y tu allan i Gymru; ·
gwybodaeth
am y gwaith sy'n cael ei wneud yng Ngwent i leihau derbyniadau i adran
damweiniau ac achosion brys. |
|
(11:30 - 12:30) |
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - Sesiwn dystiolaeth 2 Sally
Holland, Comisiynydd Plant Cymru Nia Evans,
Ymgynghorydd Polisi Iechyd ac Iechyd Meddwl Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant. 4.2
Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu nodyn ar y canlynol: ·
ei
gohebiaeth ag Ysgrifenyddion perthnasol y Cabinet ynghylch hyd a lled y gwaith
partneriaeth rhwng T4CYP a rhaglenni diwygio'r cwricwlwm, gan gynnwys copi o'r
papur a gyflwynodd i grwpiau ymgynghorol T4CYPP a Donaldson; ·
ei hymateb
i Gwasanaethau sy'n addas i'r dyfodol , sef Papur Gwyn Llywodraeth
Cymru; ·
crynodeb o
unrhyw wybodaeth gwaith achos/astudiaethau achos y tynnwyd sylw ei swyddfa
atynt mewn perthynas ag anawsterau plant a phobl ifanc wrth gyrchu gofal mewn
argyfwng. |
|
(12:30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 5.1 Cafodd
y papurau eu nodi. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - llythyr yn dilyn y sesiwn graffu ar 20 Gorffennaf Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad i Iechyd Emosiynol a Meddyliol Plant a Phobl Ifanc - nodyn am yr ymweliadau ar 28 Medi Dogfennau ategol: |
||
(12:30 - 13:00) |
Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 – trafod y dystiolaeth a'r adroddiad ar y gyllideb ddrafft Cofnodion: 7.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiwn. Caiff adroddiad
drafft ei ddosbarthu i'r Aelodau. |