Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar AC a Michelle Brown AC. Nid oedd dirprwyon ar eu rhan.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24 datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn Llywydd Anrhydeddus Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

 

 

(09:30 - 10:30)

2.

Gwaith Ieuenctid - dilyniant - sesiwn dystiolaeth 1

Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS)

Joff Carroll, Is-Gadeirydd CWVYS a Phrif Swyddog Gweithredol Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Marco Gil-Cervantes, Trysorydd CWVYS a Phrif Swyddog Gweithredol ProMo Cymru

Catrin James, Cydlynydd Rhanbarthol CWVYS

Paul Glaze, Prif Swyddog Gweithredol CWVYS

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol.

 

(10:45 - 11:30)

3.

Gwaith Ieuenctid - dilyniant - sesiwn dystiolaeth 2

Grŵp Prif Swyddogion Ieuenctid Cymru (PYOG)

Tim Opie,  Swyddog Polisi Dysgu Gydol Oes (Ieuenctid), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Joanne Simms, Cadeirydd PYOG a Rheolwr Gwasanaethau Ieuenctid, Blaenau Gwent

Steve Davis, Is-Gadeirydd PYOG a Rheolwr Gwasanaethau, Ieuenctid Sir Benfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Grŵp y Prif Swyddogion Ieuenctid.

 

(11:30 - 12:15)

4.

Gwaith Ieuenctid - dilyniant - sesiwn dystiolaeth 3

Plant yng Nghymru ac Ieuenctid Cymru

Catriona Williams OBE – Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

Chris Richards, Swyddog Datblygu, Young Wales - Plant yng Nghymru

Emma Chivers, Cadeirydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr - Ieuenctid Cymru

Julia Griffiths, Prif Swyddog Gweithredol ar y Cyd dros dro - Ieuenctid Cymru

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Blant yng Nghymru ac Youth Cymru.

 

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - rhagor o wybodaeth am y Grŵp Rhanddeiliaid Adnoddau Addysgol Dwyieithog

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant – rhagor o wybodaeth yn dilyn y cyfarfod ar 18 Ebrill

Dogfennau ategol:

(12:15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:15 - 12:30)

7.

Gwaith Ieuenctid - dilyniant - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd y bore hwnnw.