Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC a Darren Millar AC. Nid oedd dirprwyon ar eu rhan.

1.2        O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Julie Morgan AC ei bod yn aelod o'r Pwyllgor Monitro Rhaglenni.

 

(09:30 - 10:30)

2.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-ganghellor, Rhyngwladol ac Ewrop ym Mhrifysgol Caerdydd

Yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Glyndŵr

Yr Athro Medwin Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru Brwsel

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Glyndŵr, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac Addysg Uwch Cymru Brwsel.

 

(10:45 - 11:45)

3.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach - sesiwn dystiolaeth 2

Mike James, Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a'r Fro

David Jones, Prif Weithredwr Coleg Cambria

Caroline James, Cyfarwyddwr Cyllid, Coleg Sir Benfro

Claire Roberts, Cyfarwyddwr Materion Allanol, ColegauCymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Goleg Caerdydd a'r Fro, Coleg Cambria, Coleg Sir Benfro a CholegauCymru.

 

(11:45)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.1

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan CLlLC yn dilyn y cyfarfod ar 6 Mehefin

Dogfennau ategol:

4.2

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn dilyn y cyfarfod ar 6 Mehefin

Dogfennau ategol:

4.3

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan Cyllid a Thollau EM yn dilyn y cyfarfod ar 24 Mai

Dogfennau ategol:

4.4

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) – Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol yn dilyn y cyfarfod ar 14 Mehefin

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Y diweddaraf ar ddatblygiad y cwricwlwm newydd

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr oddi wrth Dr Hayley Roberts – Polisi Derbyn ar gyfer Plant sydd Wedi’u Geni yn yr Haf

Dogfennau ategol:

4.7

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr oddi wrth Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes – penodi Cadeirydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Interim

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon at Brif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a'r cyfarfod ar 4 Gorffennaf.

(11:45 - 12:00)

6.

Ymchwiliad i effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.

 

(12:00 - 13:00)

7.

Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) – Trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. Caiff yr adroddiad ei osod ddydd Mercher 18 Gorffennaf.