Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau. Cafwyd ymddiheuriadau gan Suzy Davies AC a Julie Morgan AC. Roedd Jack Sargeant AC yn dirprwyo yn lle Julie Morgan, ac nid oedd unrhyw un yn dirprwyo yn lle Suzy Davies.

 

(09.15 - 09.45)

2.

Ymchwiliad i statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru - Trafod y materion allweddol

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Byddai adroddiad drafft yn cael ei drafod mewn adroddiad yn y dyfodol.

 

(09.45 - 10.30)

3.

Cyllido Ysgolion - Briffio technegol

Cofnodion:

3.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio gan  yr ymchwilwyr ynghylch yr ymchwiliad Cyllido Ysgolion.

 

(10.45 - 12.30)

4.

Cyllido Ysgolion - Digwyddiad Bord Gron (Gwahoddedigion yn unig) (YB5)

Bydd y Pwyllgor yn cwrdd â rhanddeiliaid allweddol i drafod pa mor ddigonol yw cyllid ysgolion yng Nghymru a’r ffordd y caiff cyllidebau ysgolion eu pennu a’u dyrannu. Nid yw'r digwyddiad hwn yn agored i'r cyhoedd.

 

Cofnodion:

4.1 Trafododd yr Aelodau yr ymchwiliad Cyllido Ysgolion gyda rhanddeiliaid. Byddai nodyn o’r digwyddiad yn cael ei gyhoeddi.