Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a chafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AC a Jack Sargeant AC. Nid oedd dirprwyon ar eu rhan.

 

(09.15 - 10.00)

2.

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Drafft - Trafod ymatebion / materion allweddol

Cofnodion:

2.1 Trafododd y Pwyllgor y materion allweddol. Trafodir yr ymateb drafft yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

(10.15 - 11.30)

3.

Craffu ar strategaeth ‘Pwysau Iach: Cymru Iach’ - digwyddiad bord gron i’r gweithgor (drwy wahoddiad yn unig)

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor y strategaeth ddrafft gyda rhanddeiliaid. Byddai’r dystiolaeth a glywid yn llywio’r sesiwn gyda’r Prif Swyddog Meddygol. Byddai’r ymateb drafft i’r ymgynghoriad yn cael ei ddosbarthu i’r gweithgor ar gyfer sylwadau ac fe’i hystyrir mewn cyfarfod pwyllgor yn y dyfodol.

 

(11.40 - 12.00)

4.

Craffu ar strategaeth ‘Pwysau Iach: Iach Cymru’ - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a glywyd yn ystod trafodaethau gyda’r gweithgor.

 

(12.00 - 12.30)

5.

Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Drafft - Trafod ymatebion / materion allweddol - Sesiwn 2