Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Hefin David AC. Dirprwyodd Rhianon Passmore ar ran Dawn Bowden.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1

Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru

Sean O'Neil, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru

Tim Ruscoe, Swyddog Materion Cyhoeddus a Chyfranogiad, Barnardo's Cymru

Dr Simon Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Grŵp Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru.

 

2.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu enghreifftiau o'u hymchwil ddiweddar (ar ran y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) o Asesiadau Effaith Hawliau Plant a gwblhawyd yn ôl-weithredol ar ôl i bolisi gael ei gyflwyno.

(10.30 - 11.10)

3.

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2

Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru 
Dr Phillip Connor, Ymgynghorydd mewn Haematolegydd Paediatreg, Arweinydd Ymchwil a Datblygu'r Gyfarwyddiaeth, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru
Rhian Croke, Cynghorydd Hawliau Dynol Plant, Hawliau Dynol Cymru
Rhian Thomas Turner, Uwch-reolwr Gweithrediadau, Ysbyty Plant Cymru
 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

 

(11.20 - 12.00)

4.

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Melissa Wood, Uwch Gydymaith
Hannah Wharf, Prif arferydd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

 

4.2     Gwnaethant gytuno i ddarparu enghreifftiau rhyngwladol o sut mae mecanweithiau cenedlaethol ar gyfer gweithredu argymhellion y Cenhedloedd Unedig, adrodd arnynt a chynnal gwaith dilynol yn eu cylch yn gweithredu'n ymarferol.

(12.00 - 12.40)

5.

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4

Comisiynydd Plant Cymru

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

Rachel Thomas, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru.

(12.40)

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

6.1 Cafodd y papurau eu nodi.

6.1

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Y wybodaeth ddiweddaraf am Iechyd Meddwl Amenedigol

Dogfennau ategol:

6.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Plant sy’n derbyn gofal

Dogfennau ategol:

6.3

Llythyr gan Lywodraeth Cymru - cyfarfod pedairochrog â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol

Dogfennau ategol:

(12.40)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

(12.40 - 12.45)

8.

Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn.