Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 19/03/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, cafwyd ymddiheuriadau gan Siân Gwenllian AC, a dirprwyodd Helen Mary Jones AC ar ei rhan.

1.2        Ymunodd Janet Finch-Saunders â'r cyfarfod drwy fideo-gynadledda.

1.3        O dan Reol Sefydlog 17.24A datganodd Lynne Neagle AC y byddai ei mab yn sefyll ei arholiadau Safon Uwch yn yr haf. Datganodd Hefin David AC ei fod yn rhiant i blentyn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

 

(09.30 - 10.30)

2.

Covid-19: sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru

Kirsty Williams AM, y Gweinidog Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

Huw Morris, Cyfarwyddwr Grŵp SAUDGO

Rob Orford, Prif Gynghorydd Gwyddonol dros Iechyd

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau covid-19 gyda'r Gweinidog.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ar y materion a ganlyn:

·         Sut y byddai’r cymhwyster Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu yn cael ei asesu a,

·         Diweddariad ar y broses ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol sy'n aros am atgyfeiriadau.

 

3.

Addysg Heblaw yn yr Ysgol - sesiwn dystiolaeth 7 - WEDI'I OHIRIO

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30 - 10.45)

5.

Covid-19 – trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn gyda’r Gweinidog Addysg.

 

6.

Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 - trafod y camau nesaf - WEDI'I OHIRIO

7.

Iechyd Meddwl Amenedigol- Gwaith dilynol: ystyried y llythyr drafft - WEDI'I OHIRIO