Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alun Davidson
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 453KB) Gweld
fel HTML (267KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o
fuddiant. |
||
(09.30-10.30) |
Ansawdd aer yng Nghymru Peter
Oates, Fforwm Ansawdd Aer Cymru Isobel Moore, Cyfoeth
Naturiol Cymru Clare
Whitfield, Cydbwyllgor Cadwraeth Natur Paul
Willis, Ricardo Energy and Environment Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd Fforwm Ansawdd Aer Cymru, Cyfoeth Naturiol
Cymru, Ricardo Energy and Environment a'r Cydbwyllgor Gwarchod Natur ynghylch
materion sy'n effeithio ar ansawdd aer yng Nghymru. 2.2 Dosbarthodd
Mr Peter Oates gopi caled o ymateb Panel Arbenigol Llygredd Cymru Gyfan i
ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoli ansawdd aer. 2.3 Rhoddodd
Mr Oates gopi i'r Pwyllgor o'r Asesiad o Effaith ar
Iechyd ar gyfer y datblygiad ysbyty Gofal Critigol yn Nhorfaen. |
|
(10.45-11.30) |
Ansawdd aer yng Nghymru Huw Brunt,
Iechyd Cyhoeddus Cymru Joseph
Carter, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cofnodion: 3.1 Cafodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Iechyd Cyhoeddus
Cymru ynghylch effaith ansawdd aer ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru. 3.2 Cytunodd
Mr Huw Brunt, o Iechyd Cyhoeddus Cymru, i roi copïau i'r Pwyllgor o'r
adroddiadau y cyfeiriodd atynt yn ei dystiolaeth. |
|
Papur(au) i'w nodi |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf. Cofnodion: 5.1 Yn
unol â Rheol Sefydlog 17.42, penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r
cyfarfod ar gyfer Eitem 6. |
||
(11.30-12.00) |
Ôl-drafodaeth breifat: trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth
i law. 6.2 Cytunodd
y Pwyllgor: -
ysgrifennu
at Weinidogion perthnasol Cymru, Cyngor Sir Caerffili, Bwrdd Iechyd Lleol
Aneurin Bevan a Changhellor y Trysorlys i ofyn am ragor o wybodaeth mewn
perthynas ag ansawdd aer yng Nghymru; -
paratoi
adroddiad ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ohebiaeth uchod; a -
gofyn am
drafodaeth lawn ar ansawdd aer yng Nghymru. |