Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 09.30)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Huw Irranca-Davies AC a David Melding AC. Roedd Mohammad Asghar AC yn dirprwyo ar ran David Melding AC.

 

Talodd y Cadeirydd deyrnged i Carl Sargeant AC, a fu'n gyfrifol am ddatblygu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei rôl fel Ysgrifennydd Cabinet.

 

Diolchodd hefyd i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor.

 

 

(09.30 - 10.40)

3.

Gwaith craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru

Diane McCrea, Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru

Keith Ingram, Prif Weithredwr Dros Dro Cyfoeth Naturiol Cymru

Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Polisi a Thrwyddedu, Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Diane McCrea, Kevin Ingram a Ceri Davies gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Cynigiodd Diane McCrea i ddarparu rhagor o wybodaeth am y materion a ganlyn:

 

-        cynlluniau ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo i Gyfoeth Naturiol Cymru;

-        y graddau y cafodd yr elw o werthu pren y coed a gafodd eu cwympo o ganlyniad i'r achos o Phytophthora Ramorum ei ail-fuddsoddi mewn ailblannu; ac

-        ymholiad ynghylch trwyddedau ar gyfer drilio archwiliol sy'n gysylltiedig â ffracio yng Nghymru.

 

4.

Craffu ar gyllideb a gwaith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - wedi'i ohirio

Dogfennau ategol:

(10.40 - 10.50)

5.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

5.1

Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' – Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

5.2

Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' – ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet at y Cadeirydd

Dogfennau ategol:

5.3

Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' - Llythyr gan Gymdeithas Pysgotwyr Cymru

Dogfennau ategol:

5.4

Gohebiaeth ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Y Llanw'n Troi? Adroddiad ar yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig' - ymateb gan y Cadeirydd at Gymdeithas Pysgotwyr Cymru

Dogfennau ategol:

5.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyfyngedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Gwnaeth Simon Thomas AC gais bod y mater hwn yn cael ei godi gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor yn y dyfodol.

 

5.6

Llythyr gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ynghylch polisi adnoddau naturiol Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

5.7

Sleidiau o'r cyflwyniad a wnaed gan EDF Energy yn ystod cyfarfod y Pwyllgor ar 26 Hydref

Dogfennau ategol: