Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/11/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 09.30)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30 - 10.30)

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch TB Buchol

Dr Gareth Enticott, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio - Prifysgol Caerdydd

 

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan Dr Gareth Enticott ar TB Buchol a gofynnwyd cwestiynau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch y materion a godwyd.

 

(10.30 - 10.45)

3.

Trafod y Flaenraglen Waith

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei flaenraglen waith. Bydd yn cynnwys:

 

-        gwneud gwaith pellach ar yr ymchwiliad i ailfeddwl am fwyd yng Nghymru;

-        ymgymryd â gwaith ar ansawdd aer;

-        trafod Cynllun Morol arfaethedig Llywodraeth Cymru; a

-        gwahodd Prif Weithredwr newydd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

 

(10.45 - 11.15)

4.

Sesiwn friffio ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau eu briffio a gofynnwyd cwestiynau am y materion a godwyd.

 

5.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Huw Irranca-Davies.

 

(11.15 - 12.30)

6.

Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd
Andrew Slade - Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru
Christianne Glossop - Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft – Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet, y Gweinidog a'u swyddogion gwestiynau'r Aelodau. Cytunodd y Pwyllgor ar gyhoeddi adroddiad ar yr agweddau ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â chylch gorchwyl y Pwyllgor.

 

 

 

(12.30 - 12.35)

7.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y papurau.

 

7.1

Llythyr i Gyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaredu gwaddod wedi'i dreillio ar y môr o dan drwydded forol 12/45/ML

Dogfennau ategol:

7.2

Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch penodi Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru

Dogfennau ategol:

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem nesaf

(12.35 - 12.50)

9.

Trafodaeth breifat yn dilyn craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth, gan gytuno i ymdrin â sawl mater yn ei adroddiad ar y Gyllideb ddrafft.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn gofyn am wybodaeth am ei gyllideb net o ad-daliadau benthyciadau 'buddsoddi i arbed'.