Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/03/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-09.45)

1.

Rhag-gyfarfod Preifat – tystiolaeth fideo ar gyfer yr ymchwiliad i Dai Carbon Isel: yr Her

Cofnodion:

Gwyliodd y Pwyllgor y dystiolaeth fideo a chlywodd gyflwyniad ar ganlyniadau arolwg a gynhaliwyd ynghylch agweddau tuag at dai carbon isel.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Datganodd Joyce Watson AC ei bod yn cadeirio'r Grŵp Trawsbleidiol ar Adeiladu

 

(09.45 - 10.45)

3.

Ymchwiliad i Dai carbon isel: yr her - y chweched sesiwn dystiolaeth

Mark Harris, Swyddog Cynllunio a Pholisi, Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru

Ifan Glyn, Cyfarwyddwr, Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Mark Harris o Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi Cymru ac Ifan Glyn o Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

(11.00 - 12.00)

4.

Ymchwiliad i Dai Carbon Isel: yr her - y seithfed sesiwn dystiolaeth

Donna Griffiths, Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu Cymru

Anthony Rees, Sgiliau Adeiladu Cyfle

Owain Jones, Sgiliau Adeiladu Cyfle

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Donna Griffiths o Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu, ac Anthony Rees ac Owain Jones o Cyfle Building Skills gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(12.00 - 12.10)

6.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â'r ymchwiliad

Cofnodion:

Trafododd aelodau'r Pwyllgor y materion a godwyd yn ystod y cyfarfod.