Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/09/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Andrew RT Davies AC i'r cyfarfod fel aelod parhaol newydd o'r Pwyllgor a diolchodd i'r Aelodau blaenorol am eu cyfraniad at ei waith.

 

Croesawodd y Cadeirydd Helen Mary Jones AC hefyd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod gyda chytundeb y Cadeirydd o dan Reol Sefydlog 17.49.

 

(09.30-10.30)

2.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Broses o Graffu ar y Gyllideb Ddrafft

Cathy Madge, Gwneuthurwr Newid, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Eurgain Powell, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

 

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Eurgain Powell a Cathy Madge o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar naratif cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19 ac ar y disgwyliadau ar gyfer cyllideb ddrafft 2019-20.

 

(10.30 - 10.35)

3.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr holl bapurau o dan eitem 3.

 

3.1

Ymateb gan Brif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru i'r Gwaith Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015/16

Dogfennau ategol:

3.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2017-18

Dogfennau ategol:

3.3

Ymateb gyda'r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar ei Waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2018-19

Dogfennau ategol:

3.4

Ymateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig i adroddiad y Pwyllgor ar Fframweithiau Cyffredin ar gyfer yr Amgylchedd ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

3.5

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar drefniadau llywodraethu amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

3.6

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus

Dogfennau ategol:

3.7

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar fframweithiau cyffredin ar gyfer yr amgylchedd ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

3.8

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Fframwaith Rheoli'r Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru 2018-2023 a Chynllun Gweithredu 2018-2019

Dogfennau ategol:

3.9

Gohebiaeth ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch craffu ar gyllidebau carbon

Dogfennau ategol:

3.10

Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft

Dogfennau ategol:

3.11

Ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft

Dogfennau ategol:

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat.

 

(10.35 - 11.00)

5.

Trafod yr adroddiad drafft ar effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd a chytunodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar effaith Brexit ar bysgodfeydd yng Nghymru.

 

(11.00 - 11.20)

6.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Amaethyddiaeth

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor friff llafar ar Fil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU gan swyddogion Comisiwn y Cynulliad.

 

(11.20 - 11.40)

7.

Papur ar waith yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chytunodd arni. Cytunodd hefyd i wneud gwaith yn y dyfodol ar fioamrywiaeth ac ar seilwaith dŵr Cymru.

 

8.

Y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch monitro Brexit

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gwasanaeth Ymchwil ar ddatblygiadau diweddar o ran Brexit ym maes polisi amgylcheddol.