Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/06/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hamilton AC

 

(09.15-10.15)

2.

Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit – Sesiwn dystiolaeth 2

Alan Hunt, Uwch Ymgynghorydd Polisi Brexit - Cyfoeth Naturiol Cymru

Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol - Cyfoeth Naturiol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Alan Hunt, Uwch Ymgynghorydd Polisi Brexit, Cyfoeth Naturiol Cymru; a Ruth Jenkins, Pennaeth Polisi Rheoli Adnoddau Naturiol, Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

(10.15-11.15)

3.

Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit – Sesiwn dystiolaeth 3

Ruth Chambers, Uwch Gysylltydd Materion Seneddol - Green Alliance

Dr Tom West, Cynghorydd y Gyfraith a Pholisi, Amgylchedd y DU - Client Earth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ruth Chambers, Uwch Gysylltydd Materion Seneddol, Green Alliance; a Dr Tom West, Cynghorydd y Gyfraith a Pholisi, Client Earth.

 

3.2 Cytunodd Green Alliance i ddarparu enghreifftiau i’r Pwyllgor o sefydliadau sy’n rheoli swyddogaethau cynghori a rheoleiddio.

 

(11.30-12.30)

4.

Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit – Sesiwn dystiolaeth 4

Rebecca Williams, Cyfarwyddwr yng Nghymru, y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

Huw Thomas, Ymgynghorydd Gwleidyddol - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru

Charlotte Priddy, Swyddog Polisi - Undeb Amaethwyr Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Williams, Cyfarwyddwr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad Cymru; Huw Thomas, Ymgynghorydd Gwleidyddol, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru; a Charlotte Priddy, Swyddog Polisi, Undeb Amaethwyr Cymru.

 

 

 

(12.30-12.35)

5.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor y papur gan Gyswllt Amgylchedd Cymru.

5.1

Gohebiaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru at y Cadeirydd – dilyniant o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2019

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o eitem 7 cyfarfod heddiw

Cofnodion:

7.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 7 cyfarfod heddiw.

7.

Egwyddorion a threfniadau llywodraethau amgylcheddol ar ôl Brexit – Trafod tystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2,3 and 4

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2,3 a 4.