Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriad gan Neil Hamilton AC.

 

 

(09.00-10.00)

2.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft 2020-2040 - sesiwn dystiolaeth 5 - Ynni

Will Ryan, Cyfarwyddwr, Cynllunio - Savills

Rhys Wyn Jones, Pennaeth - Renewable UK Cymru

Eleri Davies, Pennaeth Caniatâd y DU - Innogy Renewables UK Ltd.

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Will Ryan, Cyfarwyddwr, Cynllunio, Savills; Rhys Wyn Jones, Pennaeth, Renewable UK Cymru; ac Eleri Davies, Pennaeth Caniatâd y DU, Innogy Renewables UK Ltd.

 

 

(10.00-11.00)

3.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft 2020-2040 - sesiwn dystiolaeth 6 - Bioamrywiaeth

James Byrne, Rheolwr Eiriolaeth Tirwedd – Ymddiriedolaeth Natur Cymru

Anthony Geddes, Rheolwr Cenedlaethol Cymru - Confor

Jerry Langford, Rheolwr Materion Cyhoeddus - Coed Cadw

Mike Wilkinson, Uwch Gynllunydd Cadwraeth - RSPB Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Byrne, Rheolwr Tirweddau Byw, Ymddiriedolaethau Natur Cymru; Anthony Geddes, Rheolwr Cenedlaethol Cymru, Confor; Jerry Langford, Rheolwr Materion Cyhoeddus, Coed Cadw; Mike Wilkinson, Uwch Gynllunydd Cadwraeth, RSPB Cymru.

 

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

 

(11.10-12.15)

5.

Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft 2020-2040 - Sesiwn Friffio - PREIFAT.

Graeme Purves, Cynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor

 

Cofnodion:

5.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Graeme Purves, Cynghorwr Arbenigol i'r Pwyllgor.

5.2 Trafododd ac adolygodd y Pwyllgor y dystiolaeth sydd wedi dod i law ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft Cymru 2020-2040.

5.3 Cododd y Pwyllgor faterion ac argymhellion y mae am eu codi yn ei adroddiad i Lywodraeth Cymru.

 

 

(12.15-12.30)

6.

Trafod dull gweithredu’r Pwyllgor o ran yr Ymchwiliad i Dlodi Tanwydd - PREIFAT

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu o ran ei waith ar dlodi tanwydd a chytunodd arno.