Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/01/2020 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

(09:30-10:30)

2.

Tlodi Tanwydd - sesiwn dystiolaeth 5

Daniel Alchin, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Manwerthu – Energy UK

Jenny Boyce, Rheolwr Materion Allanol - E.ON.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Daniel Alchin, Energy UK; a Jenny Boyce, E.ON.

2.2 Cytunodd E.ON i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn rhoi manylion am yr Awdurdodau Lleol yng Nghymru y mae ganddynt berthynas â hwy.

2.3 Cytunodd Energy UK i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn amlinellu’r berthynas a’r partneriaethau sydd gan eu haelodau â rhanddeiliaid yng Nghymru.

 

 

(10.40-12.00)

3.

Tlodi Tanwydd - sesiwn dystiolaeth 6

Crispin Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr - Arbed am Byth

Rajni Nair, Uwch Ymchwilydd Polisi – Cyngor ar Bopeth

David Weatherall, Pennaeth Polisi – Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Crispin Jones, Arbed am Byth; Rajni Nair, Cyngor ar Bopeth; a David Weatherall, Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

3.2 Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni i gysylltu â Nwy Prydain i ddarparu rhagor o fanylion i’r Pwyllgor am gyflwyno’r cynllun Nyth.

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

4.1

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Busnes - Craffu ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - dilyniant i sesiwn graffu mis Tachwedd 2019 ar waith y Gweinidog

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - Egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol ar ôl Brexit

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

6.

Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.

7.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2020-21

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau.