Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/01/2021 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. 1.2 Yn unol â
Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y
dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd. 1.3 Os byddai
unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei
gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi
cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn
unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Joyce Watson AS. |
||
(13.45-14.45) |
Sesiwn dystiolaeth gyda’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd Syr David
Henshaw, Cadeirydd – y Grŵp
Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru) Peter Davies - Aelod
o'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen
Adferiad Gwyrdd (Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru) Tim Peppin - Aelod
o'r Grŵp Gorchwyl a
Gorffen Adferiad Gwyrdd (Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru) Sue Pritchard - Aelod
o'r Grŵp Gorchwyl a
Gorffen Adferiad Gwyrdd (Y Comisiwn Bwyd,
Ffermio a Chefn Gwlad) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gadeirydd ac aelodau’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd. |
|
(15.00-16.00) |
Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon – sesiwn dystiolaeth 2 Aled Jones,
Dirprwy Lywydd - Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru Dr Nick Fenwick,
Pennaeth Polisi - Undeb Amaethwyr Cymru Catherine
McLaughlin, Cadeirydd - Cynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaeth Mewn
Amaethyddiaeth (RUMA) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Undeb Cenedlaethol Amaethwyr (NFU) Cymru; Undeb
Amaethwyr Cymru; a Chynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaeth Mewn
Amaethyddiaeth (RUMA). |
|
Papurau i’w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y
papurau eu nodi. |
||
Gohebiaeth gan Gyswllt Amgylchedd Cymru mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
Gohebiaeth gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol: |
||
(16.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Grŵp Gorchwyl a Gorffen Adferiad Gwyrdd - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2 Cofnodion: 6.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 2. |
||
Iechyd anifeiliaid ac atal afiechydon - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 3 Cofnodion: 7.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd o dan eitem 3. |
||
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd y Pwyllgor
yr adroddiad drafft ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr
Amgylchedd, ac yn amodol ar fân newidiad, cytunodd arno. |
||
Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22, ac
yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno. |