Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-10.15)

1.

Ymchwiliad i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei strategaeth Coetiroedd i Gymru - crynodeb o'r dystiolaeth ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, cytunodd y Pwyllgor i ethol Cadeirydd dros dro. Cytunodd yr Aelodau y byddai David Melding yn cadeirio'r cyfarfod hwn ac y byddai rôl Cadeirydd y Pwyllgor yn cylchdroi rhwng grwpiau'r pleidiau a gynrychiolir ar y Pwyllgor hyd nes y penodir Cadeirydd parhaol.

 

Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar sut y cyflenwodd Llywodraeth Cymru y Strategaeth Coetiroedd i Gymru, a chytunwyd ar restr o dystion llafar.

 

(10.30 - 11.30)

2.

Trafod yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i TB mewn Gwartheg yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad a chytunwyd i'w gyhoeddi ym mis Mai.

 

3.

Papur i’w nodi

3.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y llythyr ar effaith y Bil Diddymu Mawr a chytunodd i ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Bydd ymateb y Pwyllgor yn nodi ei syniadau cychwynnol ar y mater hwn a goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig mewn perthynas ag adroddiad diweddar y Pwyllgor ar ddyfodol rheoli tir yng Nghymru.