Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.30 - 10.00)

1.

Sesiwn breifat anffurfiol: Ymchwiliad i ddefnyddio maglau yng Nghymru – trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22, penodwyd Simon Thomas AC i fod yn Gadeirydd dros dro.

 

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.

 

(10.00 - 10.20)

2.

Sesiwn breifat anffurfiol: Ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru – sesiwn friffio ar lafar

Cofnodion:

Cafwyd gwybodaeth ar lafar am yr ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig.

 

3.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Rhoddodd Huw Irranca-Davies wybod fod aelod o'i deulu wedi dechrau gweithio i Gyfoeth Naturiol Cymru ar gontract dros dro.

 

(10.30 - 11.30)

4.

Ymchwiliad i reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth lafar gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Graham Rees, Pennaeth yr Is-adran Môr a Physgodfeydd, Llywodraeth Cymru

Andy Fraser, Pennaeth Pysgodfeydd, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Môr a Physgodfeydd, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.

 

Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu'r wybodaeth a ganlyn i'r Pwyllgor:

 

Gohebiaeth a anfonwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet at y Grwpiau Awdurdod Perthnasol ym mis Mai 2017.

 

Cofnodion cyfarfod y Grwpiau o dan y Rhaglen Newid Morol.

 

(11.30 - 12.20)

5.

Ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru - tystiolaeth lafar gan gynrychiolwyr y diwydiant

Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Cymru - Confor

David Edwards, Rheolwr Ardal - Tilhill Forestry

Hamish MacLeod, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus - BSW Timber

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y tystion eu hunain cyn ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau.

 

Oherwydd diffyg amser, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y tystion yn dilyn y sesiwn er mwyn holi rhagor o gwestiynau.

 

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

6.1

Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru ar ddifa moch daear

Dogfennau ategol:

6.2

Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru am y Grŵp Llywio ar Reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Dogfennau ategol: