Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld
trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 751 KB) Gweld
fel HTML (301 KB) |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau |
||
(10.15 - 11.15) |
Ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru - sesiwn tystiolaeth lafar gyda Cyfoeth Naturiol Cymru Michelle Van-Velzen, Arweinydd
y Tîm Rheoli Tir yn Gynaliadwy Peter Garson, Pennaeth
Gweithrediadau Masnachol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyflwynodd y tystion eu hunain, ac atebwyd cwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(11.30 - 12.30) |
Ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru - sesiwn tystiolaeth lafar gyda Llywodraeth Cymru Lesley Griffiths AC - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion
Gwledig Chris Lea, Dirprwy Gyfarwyddwr Tir, Natur a Choedwigaeth Bill MacDonald, Pennaeth y Cangen Polisi Adnoddau
Coedwigaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i swyddogion gwestiynau gan yr Aelodau. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor
am effeithiolrwydd Map Cyfleoedd Coetir Glastir. |
|
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y papurau a chytunwyd ar y camau gweithredu isod. |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch yr ymchwiliad un-dydd i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch newidiadau i broses y gyllideb Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch craffu ar Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2015-16 Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i holi Cyfoeth Naturiol Cymru am y materion a godwyd yn
y llythyr yn ystod sesiwn graffu'r hydref. |
||
Llythyr gan Andrew RT Davies AC ynghylch Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr
Amgylchedd a Materion Gwledig i ofyn am ragor o wybodaeth am drefniadau
cyllido'r Rhaglen Datblygu Gwledig. |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig â thystiolaeth bellach am reolaeth Ardaloedd Morol Gwarchodedig Dogfennau ategol: |
||
Tystiolaeth ychwanegol gan Confor ar bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru Dogfennau ategol: |
||
(13.00 - 14.00) |
Ymchwiliad i bolisi coedwigaeth a choetiroedd yng Nghymru - trafod y materion allweddol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor a chytunwyd ar y materion allweddol a ddaeth i'r amlwg
yn ystod yr ymchwiliad. |