Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Marc Wyn Jones
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/12/2017 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.15 - 09.30) |
Rhag-gyfarfod preifat |
|
(09.30 - 09.50) |
Ymchwiliad i 'dai carbon isel: yr her' - trafod tystiolaeth ysgrifenedig Cofnodion: Trafododd
yr Aelodau y dystiolaeth ysgrifenedig a chytunwyd i gynnal sesiynau tystiolaeth
lafar yn nhymor y gwanwyn. |
|
(09.50 - 10.20) |
Ymweliad y Pwyllgor â Senedd a Llywodraeth yr Alban - trafod y canfyddiadau a'r camau nesaf Cofnodion: Trafododd
yr Aelodau’r ymweliad a chytunodd i gadw mewn cysylltiad â phwyllgorau
cymheiriaid yn neddfwrfeydd eraill y DU. |
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd
ymddiheuriadau gan Gareth Bennett AC, Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC. Croesawodd
y Cadeirydd Joyce Watson AC i'r Pwyllgor a diolchodd i Jenny Rathbone AC am ei
chyfraniad at waith y Pwyllgor. |
||
(10.20 - 11.10) |
Ymchwiliad i ynni cymunedol - sesiwn tystiolaeth lafar Merlin Hyman - Prif Weithredwr, Regen South West Robert Proctor - Rheolwr Datblygu Busnes, Ynni Cymunedol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Merlin Hyman a Robert Proctor eu hunain gan ateb cwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(11.20 - 12.10) |
Ymchwiliad i ynni cymunedol - sesiwn tystiolaeth lafar Holly Cross -
Cyfarwyddwr Ynni Adnewyddadwy Cwm Arian Benedict Ferguson -
Cyfarwyddwr (Trysorydd) Ynni Cymunedol yn Sir Benfro Grant Peisley -
Cyfarwyddwr Cyd Ynni (yn cymryd rhan drwy gynhadledd fideo) Jenny Wong – Coetir Mynydd (Consortiwm Cyd Ynni) (yn
cymryd rhan drwy gynhadledd fideo) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Benedict Ferguson, Holly Cross, Grant Peisley a Jenny Wong eu hunain gan ateb
cwestiynau gan yr Aelodau. |
|
(12.10 - 12.15) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: Nododd yr
Aelodau y papurau. |
|
Gohebiaeth rhwng y Cadeirydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, a Gweinidog yr Amgylchedd ynghylch adroddiad y Pwyllgor, 'Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetir' Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â gweithdy Polisi Cyfoeth Naturiol y Pwyllgor Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch gwaredu gwaddod wedi'i dreillio ar y môr o dan drwydded forol 12/45/ML. Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn craffu blynyddol ar Gyfoeth Naturiol Cymru Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 9 o'r cyfarfod hwn. Cofnodion: Derbyniwyd
y cynnig. |
||
(12.15 - 12.30) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a chytunodd i ofyn i Lywodraeth Cymru am wybodaeth
ynghylch y canlynol: -
Dadelfennu
targedau cenedlaethol ar gyfer ynni cymunedol i'r lefel leol -
Cynyddu’r
gefnogaeth i Ynni Lleol a rhoi sicrwydd hirdymor iddo. -
Egluro'r
trothwyon a'r cymhwyster ar gyfer esemptiadau Ardrethi Busnes ar gyfer
prosiectau ynni cymunedol -
Pa un a
yw'n bwriadu cyhoeddi, yn flynyddol, faint o ynni cymunedol sy'n cael ei
gynhyrchu gan awdurdodau lleol. |