Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/01/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-09.45)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC, a chroesawyd Jenny Rathbone AC fel ei dirprwy.

 

(09.45-11.00)

3.

Craffu cyffredinol ar waith Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth a chraffu ar y gyllideb

Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd – Llywodraeth Cymru

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr, Cyllid a Gweithrediadau – Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Ymatebodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, i gwestiynau gan yr Aelodau.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet ynghylch materion a godwyd yn ystod y sesiwn.

 

(11.00-11.05)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitem 6 y cyfarfod hwn.

 

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Trafod y flaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y flaenraglen waith arfaethedig, gan gytuno i ysgrifennu at Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch tanau ar safleoedd ailgylchu ac ymgymryd â darn byr o waith ar gynigion ar gyfer cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion untro.