Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 15/02/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.15 - 09.30)

1.

Rhag-gyfarfod preifat

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

(09.30 - 10.45)

3.

Ymchwiliad i 'Tai carbon isel: yr her' - y bumed sesiwn dystiolaeth

Dr Roisin Willmott OBE, Cyfarwyddwr Cymru a Gogledd Iwerddon, Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru

Andrew Sutton, Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru

Neville Rookes, Swyddog Polisi (Amgylchedd), Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Dr Roisin Willmott, Andrew Sutton a Neville Rookes gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

(10.45-10.50)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Gohebiaeth gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

 

4.2

Gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar gaffael bwyd yn y sector cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.

 

4.3

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynghylch TB Buchol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am TB Buchol gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i ofyn am eglurhad pellach ar fater a godwyd yn y llythyr.

 

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer Eitemau 6, 7 ac 8

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

(11.00 - 12.00)

6.

Ansawdd aer - cyflwyniad preifat gan y British Lung Foundation ac Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Yr Athro Paul Lewis, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe

Joseph Carter, Pennaeth Cymru, British Lung Foundation

Haf Elgar, Cyfarwyddwr, Cyfeillion y Ddaear Cymru

 

Cofnodion:

Atebodd Haf Elgar, yr Athro Paul Lewis a Joseph Carter gwestiynau gan y Pwyllgor ar eu cyflwyniad ar ansawdd aer yng Nghymru.

 

(12.00 - 12.10)

7.

Trafodaeth ar yr adroddiad byr drafft 'Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth - Craffu Cyffredinol a Chraffu ar y Gyllideb'.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar destun yr adroddiad byr, gydag un gwelliant.

 

(12.10 - 12.30)

8.

Trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a roddwyd yn ystod y cyfarfod.