Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/11/2018 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriad gan Andrew RT Davies.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Llyr Gruffydd i'r cyfarfod sy'n cymryd lle Dai Lloyd fel aelod parhaol o'r Pwyllgor. Diolchodd y Cadeirydd i Dai Lloyd am ei gyfraniad at waith y Pwyllgor. 

 

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau tri a phedwar

Cofnodion:

2.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 3 a 4.

 

(10.30 - 10.45)

3.

Trafod y flaenraglen waith.

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am estyniad i'w derfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth.

 

3.2 Trafododd y Pwyllgor ymchwiliadau posibl ar gyfer tymor y gwanwyn. Cytunodd i gynnal ymchwiliad i fioamrywiaeth cyn gynted â phosibl yn ôl ei raglen waith. Bydd y Pwyllgor yn trafod papur cwmpas a dull gweithredu maes o law.

 

(10.45 - 11.15)

4.

Sesiwn friffio ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Cofnodion:

4.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio lafar ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20 gan swyddogion o Wasanaeth Ymchwil y Cynulliad.

 

(11.15 - 12.45)

5.

Craffu ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Hannah Blythyn AC, Gweinidog yr Amgylchedd

Tim Render, Cyfarwyddwr Arweiniol dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol

Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a Gweinidog yr Amgylchedd i lywio ei ymchwiliad.

 

6.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 6.

 

6.1

Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r Cadeirydd - Gwybodaeth ddilynol o'r sesiwn graffu a gynhaliwyd ar 4 Hydref

Dogfennau ategol:

6.2

Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r Cadeirydd - Trafod Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

6.3

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig - Trafod Bil Amaethyddiaeth Llywodraeth y DU - Gwahoddiad i Gyfarfod

Dogfennau ategol:

6.4

Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig a'r Cadeirydd - Cyllidebau carbon a'r rhaglen ddatgarboneiddio

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8.

Cofnodion:

7.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 8.

 

(12.45 - 13.00)

8.

Trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 5.