Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 24/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

1.2        Croesawodd y Cadeirydd Jenny Rathbone AC sy'n cymryd lle Jayne Bryant AC fel aelod parhaol o'r Pwyllgor.

1.3        Diolchodd y Cadeirydd i Jayne Bryant AC am ei chyfraniad at waith y Pwyllgor. 

 

(09.30-11.00)

2.

Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Robert Floyd, Pennaeth, Trefniadau Pontio’r UE – y Môr a Physgodfeydd

Graham Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Môr a Physgodfeydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

2.2 Cytunodd y Gweinidog i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed wrth fynd i'r afael â phryderon mewn perthynas â chymal 18 o Fil Pysgodfeydd y DU yn dilyn trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. 

 

(11.00)

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y papurau o dan eitem 3.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i nodi ei bryderon ynghylch yr oedi wrth ymateb i'w adroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-2020.

 

3.1

Gohebiaeth gan y Gwir Anrhydeddus Michael Gove AS at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Bil Amaethyddiaeth y DU

Dogfennau ategol:

3.2

Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch cyflawni llwybr carbon isel hyd at 2030

Dogfennau ategol:

3.3

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar Gyllideb 2019 – 2020 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

3.4

Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018

Dogfennau ategol:

3.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd ynghylch adroddiad y Pwyllgor ar Gyllideb Ddrafft 2019-2020 Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(11.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod heddiw ar gyfer eitem 5

Cofnodion:

4.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o eitem 5 cyfarfod heddiw.

 

(11.00-11.30)

5.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil Pysgodfeydd y DU: trafod y dystiolaeth lafar

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitem 2.