Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 22/05/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau, dirprwyon na datganiadau o fuddiant.

 

Nododd y Cadeirydd nad oedd Gareth Bennett AC yn Aelod o'r Pwyllgor mwyach.

 

(09.30-10.15)

2.

Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru – gwaith dilynol: sesiwn dystiolaeth 1

Yr Athro Stephen Fletcher, Athro Polisi Cefnforoedd a'r Economi - Prifysgol Portsmouth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan yr Athro Stephen Fletcher i lywio ei ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru.

 

 

(10.15-11.15)

3.

Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru – gwaith dilynol: sesiwn dystiolaeth 2

Sue Burton, Swyddog ACA – Ardal Cadwraeth Arbennig Forol Sir Benfro

Jonathan Monk, Rheolwr Amgylcheddol – Porthladd Aberdaugleddau

Tegryn Jones, Prif Weithredwr - Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar gan Sue Burton, Jonathan Monk a Tegryn Jones i lywio ei ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru.

 

 

(11.15-11.20)

4.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr holl bapurau o dan eitem 4.

 

4.1

Gohebiaeth oddi wrth y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru – Llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol

Dogfennau ategol:

4.2

Gohebiaeth oddi wrth y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru – Llywodraethu amgylcheddol ac egwyddorion amgylcheddol

Dogfennau ategol:

4.3

Gohebiaeth oddi wrth y Cadeirydd at Archwilydd Cyffredinol Cymru – Llywodraethu ac egwyddorion amgylcheddol

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig – Polisi Coedwigaeth

Dogfennau ategol:

4.5

Gohebiaeth oddi wrth y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod heddiw ar gyfer eitemau 6 a 7

Cofnodion:

Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

6.

Ymweliadau â rhandiroedd – Adborth

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau adborth ar eu hymweliadau diweddar â rhandiroedd i lywio ymchwiliad y Pwyllgor i randiroedd yng Nghymru.

 

7.

Trafod yr adroddiad drafft ar Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru: Brandio a phrosesu bwyd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad ar Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru: Brandio a phrosesu bwyd, yn amodol ar fân newidiadau.

 

8.

Ystyried yr adroddiad drafft ar leihau gwastraff plastig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad ar leihau gwastraff plastig.