Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/12/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Papur(au) i’w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol - atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y cyfarfod ar 16 Medi 2019

Dogfennau ategol:

2.2

Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar egwyddorion a threfniadau llywodraethu amgylcheddol

Dogfennau ategol:

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Penderfynodd y Pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.

 

(09.30-09.50)

4.

Trafod adroddiad blynyddol drafft y Pwyllgor ar newid hinsawdd (datgarboneiddio)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad blynyddol drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 

(09.50- 10.10)

5.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar Fframwaith Datblygu Cenedlaethol 2020-2040

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newidiadau.

 

 

(10.10-10.30)

6.

Trafod llythyr drafft at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn dilyn y sesiwn graffu a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd.

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft a chytunodd arno, yn amodol ar fân newid.

 

 

(10.30 - 11.30)

7.

Sesiwn friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru - Tlodi Tanwydd

Mathew Mortlock, Cyfarwyddwr Archwilio - Swyddfa Archwilio Cymru

Emma Giles, Arweinydd Archwilio - Swyddfa Archwilio Cymru

Mark Jeffs, Rheolwr Archwilio - Swyddfa Archwilio Cymru

 

 

 

Cofnodion:

7.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Matthew Mortlock a Mark Jeffs o Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny at ddibenion llywio ei ymchwiliad i dlodi tanwydd.

 

(11.30-11.45)

8.

Trafod blaenraglen waith ddrafft y Pwyllgor

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.