Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro Cofnodion: 1.1 Penodwyd Siân Gwenllian AC fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod,
ac ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 22 Tachwedd. |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins, Dawn Bowden, Neil Hamilton,
Jeremy Miles a Hannah Blythyn. Daeth Joyce Watson a Mick Antoniw fel dirprwyon.
|
||
(08:45 - 09:15) |
Craffu ar y Gyllideb: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gymraeg Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad, yn ôl ardal
awdurdod lleol, o nifer yr ysgolion (a disgyblion) sydd wedi cymryd rhan yn y
rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau. |
|
(09:45 - 11:00) |
Craffu ar y Gyllideb: Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon Dafydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant,
Twristiaeth a Chwaraeon Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a
Thwristiaeth Peter Owen, Head of Arts Policy Branch Dean Medcraft, Director, Finance & Operations Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 4.2 Cytunodd y Gweinidog i: Ø Ddarparu nodyn
ar sut y bydd y £100,000 a ddynodwyd i weithredu argymhellion yr adolygiad ar
wasanaethau amgueddfeydd lleol yn cael ei ddosbarthu; Ø Rhannu'r
cytundeb partneriaeth sgiliau a wnaed gyda English Heritage, Historic Scotland
a'r corff adeiladu ar gyfer y DU; Ø Darparu nodyn
ar p'un a oes unrhyw fusnesau newyddion hyper leol presennol yn cael eu
hariannu ar hyn o bryd drwy Busnes Cymru, sut y dyrennir yr arian hwnnw, swm yr
arian ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio. |
|
(11:00 - 12:00) |
Craffu ar y Gyllideb: Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gymraeg Iwan Evans, Uwch-swyddog Polisi, Cynllunio Strategol Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. 5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o'r £3.9 miliwn
arfaethedig ar gyfer llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer y Gymraeg. |
|
Papurau i'w nodi Cofnodion: 6.1 Nododd aelodau'r Pwyllgor y papurau. |
||
Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau: Tystiolaeth Ychwanegol Dogfennau ategol: |
||
Yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru: Tystiolaeth Ychwanegol Dogfennau ategol: |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||
(12:00 - 12:20) |
Ôl-drafodaeth breifat |
|
(12:20 - 12:30) |
Ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati: Trafod yr arolwg ysgolion Cofnodion: 9.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor yr arolwg a chytuno arno. |