Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martha Da Gama Howells 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/01/2020 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiant

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

(09.30-10.30)

2.

Astudiaeth Ddichonoldeb Addysg Cerddoriaeth

Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg

Melanie Godfrey, Dirprwy Gyfarwyddwr Busnes a Llywodraethiant Addysg

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y Gweinidog Addysg gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth mewn gohebiaeth am y cyllid ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a'r cymorth ar gyfer gwasanaethau cerddoriaeth gan ysgolion sy'n codi ffioedd.

 

(10.30-11.30)

3.

Ymchwiliad i gerddoriaeth fyw: Hybu Cerddoriaeth

Dafydd Roberts, Prif Weithredwr, Sain

Gwennan Gibbard, Sain

Danny Kilbride, Cyfarwyddwr, Trac

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd Dafydd Roberts a Gwennan Gibard o Recordiau Sain a Danny Kilbride o Trac i gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

(11.30-12.30)

4.

Ymchwiliad i gerddoriaeth fyw

Ywain Myfyr, Sesiwn Fawr Dolgellau, Cyfarwyddwr i Tŷ Siamas ac Artist

 

 

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd Ywain Myfyr o Sesiwn Fawr Dolgellau a Tŷ Siamas, a'r artist Andrew Walton i gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

(12.30-13.00)

5.

Ymchwiliad i gerddoriaeth fyw: Cerddoriaeth mewn addysg

Bethan Jenkins, Ysgol Lewis Pengam

 

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd Bethan Jenkins o Ysgol Lewis Pengam i gwestiynau gan y Pwyllgor.

 

6.

Papur(au) i'w nodi

6.1

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Pinewood Studios

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd yr Aelodau y papur.

 

6.2

Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth at y Cadeirydd ynghylch y diweddaraf am y portffolio celfyddydau a diwydiannau creadigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.2 Nododd yr Aelodau y papur.

 

(13.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn

Cofnodion:

7.1 Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.

 

(13.00-13.10)

8.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth.