Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/11/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.22 i ethol Cadeirydd dros dro

Cofnodion:

1.1 Penodwyd Siân Gwenllian AC fel Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod, ac ar gyfer y cyfarfod nesaf ar 22 Tachwedd.

 

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins, Dawn Bowden, Neil Hamilton, Jeremy Miles a Hannah Blythyn. Daeth Joyce Watson a Mick Antoniw fel dirprwyon.

 

(08:45 - 09:15)

3.

Craffu ar y Gyllideb: Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Steve Davies, Cyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ysgrifennydd y Cabinet gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu dadansoddiad, yn ôl ardal awdurdod lleol, o nifer yr ysgolion (a disgyblion) sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau.

 

(09:45 - 11:00)

4.

Craffu ar y Gyllideb: Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Dafydd Elis-Thomas AC, Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Peter Owen, Head of Arts Policy Branch

Dean Medcraft, Director, Finance & Operations

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

4.2 Cytunodd y Gweinidog i:

 

Ø  Ddarparu nodyn ar sut y bydd y £100,000 a ddynodwyd i weithredu argymhellion yr adolygiad ar wasanaethau amgueddfeydd lleol yn cael ei ddosbarthu;

 

Ø  Rhannu'r cytundeb partneriaeth sgiliau a wnaed gyda English Heritage, Historic Scotland a'r corff adeiladu ar gyfer y DU;

 

Ø  Darparu nodyn ar p'un a oes unrhyw fusnesau newyddion hyper leol presennol yn cael eu hariannu ar hyn o bryd drwy Busnes Cymru, sut y dyrennir yr arian hwnnw, swm yr arian ac ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio.

 

(11:00 - 12:00)

5.

Craffu ar y Gyllideb: Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gymraeg

Iwan Evans, Uwch-swyddog Polisi, Cynllunio Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd y Gweinidog gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor.

 

5.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu dadansoddiad o'r £3.9 miliwn arfaethedig ar gyfer llinell wariant yn y gyllideb ar gyfer y Gymraeg.

 

6.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

6.1 Nododd aelodau'r Pwyllgor y papurau.

 

6.1

Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau: Tystiolaeth Ychwanegol

Dogfennau ategol:

6.2

Yr Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru: Tystiolaeth Ychwanegol

Dogfennau ategol:

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

7.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:00 - 12:20)

8.

Ôl-drafodaeth breifat

(12:20 - 12:30)

9.

Ariannu addysg cerddoriaeth a mynediad ati: Trafod yr arolwg ysgolion

Cofnodion:

9.1 Trafododd Aelodau'r Pwyllgor yr arolwg a chytuno arno.