Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 30/11/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC, Mick Antoniw AC a Rhianon Passmore AC. Ni chafwyd dirprwyon

1.2        Croesawodd y Cadeirydd aelodau newydd y Pwyllgor a diolchodd i'r Aelodau blaenorol am eu cyfraniad i waith y Pwyllgor.

1.3        Datgan buddiannau: Datganodd Siân Gwenllian AC fod ganddi gysylltiad personol â pherson mewn rôl flaenllaw yn y sector Celfyddydau.

 

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd yr Aelodau y papur.

2.1

Llythyr i'r Cadeirydd gan Mudian Meithrin - Cymraeg 2050

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Ailddatganiad o Ffigurau’r Gyllideb

Dogfennau ategol:

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4, 5 ac 10

Cofnodion:

3.1 Derbyniwyd y cynnig.

(09:00 - 09:15)

4.

Newyddiaduraeth Newyddion yng Nghymru: Ystyried Ymatebion i'r Ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

(09:15 - 09:30)

5.

Adolygiad Annibynnol o Gymorth ar gyfer Cyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru: Ystyried sut i ymateb

(09:30 - 10:20)

6.

Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau: sesiwn dystiolaeth 6

Rebecca Gould, Pennaeth y Celfyddydau, British Council Cymru

Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru

Clare Williams, Prif Weithredwr Theatr Hijinx

Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

6.2 Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r tystion yn fodlon ateb cwestiynau pellach yn ysgrifenedig.

(10:20 - 11:10)

7.

Cyllid heblaw cyllid cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau: sesiwn dystiolaeth 7

Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Purfa Penfro, Valero

Hoodi Ansari, Ymddiriedolwr, G39

Mathew Prichard, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr, Ymddiriedolaeth Colwinston

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

7.2 Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'r tystion yn fodlon ateb cwestiynau pellach yn ysgrifenedig.

(11:30 - 12:20)

8.

Yr amgylchedd hanesyddol: sesiwn dystiolaeth 6

Jane Lee, Swyddog polisi – Adfywio ac Ewrop, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Amy Longford, Rheolwr Treftadaeth, Cyngor Sir Fynwy

Peter Thomas, Uwch Gynllunydd (Cadwraeth a Dylunio), Adfywio a Chynllunio, Cyngor Bro Morgannwg

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

(12:20 - 13:10)

9.

Yr amgylchedd hanesyddol: sesiwn dystiolaeth 7

Justin Albert, Cyfarwyddwr Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Dr Emma Plunkett-Dillon, Pennaeth Cadwraeth, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Cofnodion:

9.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

(13:10 - 13.30)

10.

Ôl-drafodaeth breifat