Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Diolchodd y Cadeirydd i Neil Hamilton a Jack Sargeant am eu gwaith fel aelodau o'r Pwyllgor a chroesawodd Caroline Jones a Jane Hutt fel aelodau newydd yn eu lle.

 

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Caroline Jones; nid oedd dirprwy yno ar ei rhan.

 

 

(09:30 - 11:00)

2.

Gwaith craffu blynyddol ar Gomisiynydd y Gymraeg

Meri Huws, Gomisiynydd y Gymraeg

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol

Gwenith Price, Cyfarwyddwr Strategol

 

Lawrlwythiadau:

 

Cymraeg Adroddiad Blynyddol 2017-18

 

‘Mesur o Lwyddiant’ – Adroddiad Sicrwydd 2017-8

 

Crynodeb o ‘Mesur o Lwyddiant’ – Adroddiad Sicrwydd 2017-18

 

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Gwenith Price i roi i'r Pwyllgor enwau'r ddau fwrdd iechyd sy’n cymryd 15 diwrnod ar gyfartaledd i ateb negeseuon e-bost Cymraeg, fel y cyfeiriwyd atynt yn Adroddiad Sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg 2017-18.

 

(11:00 - 12:00)

3.

Gwaith craffu blynyddol ar Gyngor Celfyddydau Cymru

Nick Capaldi, Prif Weithredwr, Cyngor Celfyddydau Cymru

Gwyn Williams, Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes

 

Lawrlwytho:

 

Adroddiad a Datganiadau Ariannol 2017-18

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

4.1 Derbyniodd Aelodau'r Pwyllgor y cynnig.

 

(12:00 - 12:15)

5.

Sesiwn friffio breifat

Cofnodion:

5.1 Trafododd aelodau'r Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunwyd ar y camau a ganlyn:

 

·         Ysgrifennu at Gomisiynydd y Gymraeg, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes a'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol ynglŷn â nifer o faterion a godwyd yn ystod sesiwn Comisiynydd y Gymraeg; ac

·         Ysgrifennu at Adran Llywodraeth y DU dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Phwyllgor Senedd y DU dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ynglŷn â phwynt a godwyd yn ystod sesiwn Cyngor Celfyddydau Cymru o ran cyllid loteri. 

 

(12:15 - 12:30)

6.

Cefnogi a hybu’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach: Trafod ymatebion i’r ymgynghoriad

Cofnodion:

6.1 Trafododd aelodau'r Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad a chytunwyd pwy i’w gwahodd i roi tystiolaeth lafar yn y sesiynau sy'n weddill ar gyfer yr ymchwiliad.