Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 08/11/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Hutt AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei rhan.

 

1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Sian Gwenllian AC am ei gwaith ar y Pwyllgor, a chroesawodd Dai Lloyd AC i gymryd ei lle.

 

(09.30-10.30)

2.

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 - Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Dafydd Elis-Thomas AC, y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Jason Thomas, Cyfarwyddwr Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Huw Davies, Pennaeth Cyllid, Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y Gweinidog a'i swyddogion i gwestiynau gan Aelodau'r Pwyllgor a chytunodd i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am sut yr asesir y gwerth am arian o'r buddsoddiad i ailddatblygu Sain Ffagan yn y blynyddoedd i ddod; ac

·         Eglurhad ynghylch sut y dyrannwyd y £100,000 ar gyfer darparwyr newyddion hyperleol.

 

(10:30 - 11:30)

3.

Cefnogi a hybu'r Gymraeg: Ymchwiliad i'r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach: Sesiwn dystiolaeth 5

Llinos Roberts, Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol, y Gymraeg a Rhyngwladol, Coleg Cambria (yn cynrychioli Colegau Cymru)

Yr Athro R. Gwynedd Parry, Athro'r Gyfraith a Hanes Cyfreithiol, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Coleg y Gyfraith, Prifysgol Abertawe

Lois Roberts, Swyddog y Gymraeg, Coleg y Cymoedd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

(11:30 - 12:30)

4.

Cefnogi a hybu'r Gymraeg: Ymchwiliad i'r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi ac yn ehangach: Sesiwn dystiolaeth 6

Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rebecca Williams, Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol a Swyddog Polisi, UCAC

Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

5.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

5.1 Nododd aelodau'r Pwyllgor y papurau.

5.1

Ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati: Gwybodaeth ychwanegol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dogfennau ategol:

5.2

Ymchwiliad byr i oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd i feysydd o fewn cylch gwaith y Pwyllgor: Gwybodaeth ychwanegol gan Equity

Dogfennau ategol:

5.3

Craffu blynyddol ar Gyngor Celfyddydau Cymru: Ateb gan Gyngor Celfyddydau Cymru i lythyr gan y Cadeirydd

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

(12:30 - 13:00)

7.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.