Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Steve George 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2018 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Jane Hutt AC, a bu Vikki Howells AC yn dirprwyo ar ei rhan.

 

(09.30-10.30)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019-20 - Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Iaith Gymraeg

Jeremy Evas, Pennaeth Hyrwyddo’r Gymraeg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor a chytunwyd i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad o’r dyraniad cyllid ar gyfer y cynllun sabothol; a

·         Chynllun gweithredu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mewn perthynas ag addysg bellach - pan fydd ar gael.

 

(10:30 - 11:30)

3.

Craffu Blynyddol ar Ofcom Cymru

Eleanor Marks, Cyfarwyddwr, Ofcom Cymru

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp, Cysylltiadau Allanol Defnyddwyr

 

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor, a chytunwyd i ddarparu:

 

·         Memorandwm cyd-dealltwriaeth ar yr hyn yw’r swyddogaeth reoleiddiol a phwy sy’n gwneud beth o ran perthynas Ofcom ag S4C; a

·         Nodyn ar lefel yr ymwybyddiaeth ymhlith pobl nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg o ran gofynion Ofcom bod yn rhaid i 53 y cant o’r rhaglenni ar S4C fod ag is-deitlau.

 

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Nododd aelodau’r Pwyllgor y papurau.

 

4.1

Llythyr at y Cadeirydd gan Adam Somerset: Theatr Genedlaethol Cymru

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr at y Cadeirydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau: Deiseb P05-840 Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a phob Awdurdod Lleol arall

Dogfennau ategol:

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y mater a ganlyn:

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:30 - 11:45)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:45 - 12:00)

7.

Trafod y dull o ymdrin â thystiolaeth lafar

Cofnodion:

7.1 Trafododd aelodau’r Pwyllgor eu dull o ran ymdrin â thystiolaeth lafar.